Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Tracey Davies, Swyddfa Archwilio Cymru Gillian Body, Swyddfa Archwilio Cymru Ian Hughes, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle.
2. Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru
2.1 Rhoddwyd briff i’r Pwyllgor gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a Tracey Davies, Rheolwr Archwilio Perfformiad.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am gyfraddau genedigaethau Cesaraidd y byrddau iechyd yng Nghymru o’u cymharu â rhanbarthau a chenhedloedd eraill y DU, gan gynnwys y data diweddaraf sydd ar gael.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar funudau’r cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Eitemau 5 i 9.
5. Opsiynau ar gyfer ymdrin â gohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau ar gyfer ymdrin â’r cyngor a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar wasanaethau mamolaeth, a phenderfynodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i rai materion sy’n peri pryder a amlygwyd yn ei ohebiaeth.
6. Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Powys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge
6.1 Cafodd y Pwyllgor friff preifat gan Gillian Body, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol – Archwilio Perfformiad ac Ian Hughes, Rheolwr Cydymffurfio, ar adroddiad a gyhoeddir yn fuan, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former River Lodge Hotel, Llangollen (heb ei gyhoeddi yn Gymraeg hyd yn hyn) .
7. Opsiynau ar gyfer ymdrin â Phowys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former River Lodge Hotel, Llangollen a gofynnodd i’r Clerc gasglu rhestr o dystion posibl i roi tystiolaeth.
8. Trafod busnes y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol a'i raglen waith ar gyfer haf 2012
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer tymor yr haf 2012.
9. Trafod ymweliad â Chynulliad Gogledd Iwerddon
9.1 Trafododd y Pwyllgor y cynigion i ymweld â Chynulliad Gogledd Iwerddon ar 12-13 Medi 2012 i drafod arfer gorau â’i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cytunwyd ar y cynigion.